Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Medi 2023
Amser:
09.01 -
09.18
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiad a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i ffotograffydd allu cael mynediad i'r Siambr yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf er mwyn creu llyfrgell fwy cynhwysfawr o ddelweddau y gellir eu defnyddio ar gyfer gohebiaeth gorfforaethol yn ogystal â chan yr Aelodau eu hunain.
Dydd Mercher
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod amseriadau ar gyfer cyfraniadau wedi'u cyfyngu yn ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau. Dywedodd y Llywydd hefyd y bydd yn galw siaradwyr yn y fath fodd ag i sicrhau bod modd mynegi cydbwysedd barn yn ystod y trafodaethau.
3.2 Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 10 Hydref 2023
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru (30
munud) – wedi’i ohirio tan 24
Hydref
Gwnaeth Heledd Fychan gais am ddiweddariad ar amseriad datganiad llafar ynghylch newidiadau posibl i Gyllideb 2023-24. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar yn ystod mis Hydref.
3.3 Amserlen y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 18 Hydref 2023 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio - Amserlen Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Amserlen Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch trefniadau ar gyfer craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn ystyried yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am slot ar gyfer dadl
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl ar ddeiseb P-06-1345 ar 18 Hydref 2023, ac i ddadl ar ddeiseb P-06-1356 gael ei threfnu yn ddiweddarach.
5.2 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd ynghylch slotiau cyfarfodydd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais Pwyllgor y Llywydd i gwrdd fore Mawrth 7 Tachwedd 2023. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgor barhau i ofyn am slotiau cyfarfod amgen pan fydd angen iddo gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod penodedig.